2 Samuel 4

Ish-bosheth yn cael ei ladd

1Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi ei ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio'n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn. 2Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw'n feibion i Rimmon o Beëroth
4:2 Beëroth Tref ryw 9 milltir i'r gogledd o Jerwsalem.
ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin.
3Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw'n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.)

4Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi eu lladd. b Dyma ei nyrs yn gafael ynddo i ffoi. Ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff.

5Dyma Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, yn mynd i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys. 6Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, a dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc.

7Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra roedd Ish-bosheth yn ei ystafell, yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a teithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba. 8Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r Arglwydd wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”

9Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr Arglwydd yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt. 10Pan ddaeth rhyw ddyn ata i i Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, c roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond dyma fi'n gafael ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd e am ei ‛newyddion da‛! 11Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra roedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a'ch difa chi oddi ar wyneb y ddaear yma!”

12Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Wedyn dyma nhw'n torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner hefyd, yn Hebron.

Copyright information for CYM